2020 Rhif (Cy. )

BWYD, CYMRU

DIOGELWCH BWYD

Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Cymru) (Diwygio) 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Maeʼr Rheoliadau hyn, syʼn gymwys i Gymru, yn diwygio Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Cymru) 2016 (O.S. 2016/639 (Cy. 175)) (“Rheoliadau 2016”) er mwyn darparu ar gyfer gorfodi mewn cyfraith ddomestig ddarpariaethau Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2016/128 dyddiedig 25 Medi 2015 syʼn ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop aʼr Cyngor ynghylch y gofynion penodol o ran cyfansoddiad a gwybodaeth ar gyfer bwyd at ddibenion meddygol arbennig a ddatblygir i fodloni gofynion maethol babanod (OJ Rhif L 25, 2.2.2016, t. 30) (“y Rheoliad Dirprwyedig”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68) ac mae’r cyfeiriadau ynddynt at ddarpariaethau’r Rheoliad Dirprwyedig i’w dehongli fel cyfeiriadau at y darpariaethau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

Mae rheoliad 4 oʼr Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 2 o Reoliadau 2016 fel bod y cyfeiriadau yn Rheoliadau 2016 at y Rheoliad Dirprwyedig yn gyfeiriadau at y Rheoliad Dirprwyedig fel y maeʼn gymwys i fwyd at ddibenion meddygol arbennig gan gynnwys bwyd a ddatblygir i fodloni gofynion maethol babanod.

Mae rheoliad 6 oʼr Rheoliadau hyn yn rhoi rheoliad 7 newydd yn Rheoliadau 2016 yn lleʼr un presennol i ddarparu trefniadau trosiannol newydd syʼn sicrhau y caniateir i stociau o fwyd at ddibenion meddygol arbennig a labelir neu a roddir ar y farchnad cyn dyddiad cymhwyso darpariaethauʼr Rheoliad Dirprwyedig barhau i gael eu marchnata nes iʼr stociau hynny gael eu disbyddu.

Mae rheoliad 7 oʼr Rheoliadau hyn yn diwygioʼr tabl yn Atodlen 1 i Reoliadau 2016 i gynnwys darpariaethau pellach yn y diffiniad o “gofyniad UE penodedig”.

Maeʼr Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau i Reoliadau 2016 i gywiro gwallau drafftio ac i ddarparu eglurder pellach. Mae rheoliad 8 yn mewnosod paragraffau newydd 6A a 7A yn Rhan 3 o Atodlen 3 i Reoliadau 2016 i ddarparu eglurder ynghylch cymhwyso adran 35 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 i Reoliadau 2016 ac mae rheoliad 5 yn cywiro gwall drafftio yn rheoliad 4(5) o Reoliadau 2016.

Mae rheoliad 9 oʼr Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau dirymu ac arbed. Mae rheoliad 9 oʼr Rheoliadau hyn, aʼr Atodlen iddynt, yn dirymu Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000 (O.S. 2000/1866 (Cy. 125)) aʼr darpariaethau syʼn eu diwygio. Mae Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000 yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/21/EC ar fwydydd dietegol at ddibenion meddygol arbennig a ddatblygir i fodloni gofynion maethol babanod (OJ Rhif L 91, 7.4.1999, t. 29, fel yʼi cywirwyd gan gorigendwm a gyhoeddwyd ar 5 Ionawr 2000 (OJ Rhif L 2, 5.1.2000, t. 79)).

Mae rheoliad 9 oʼr Rheoliadau hyn yn darparu ymhellach ar gyfer y dirymiadau sydd iʼw harbed at ddibenion y darpariaethau trosiannol yn rheoliad 7 o Reoliadau 2016 fel yʼu hamnewidir gan y Rheoliadau hyn, ac at ddibenion y darpariaethau trosiannol yn rheoliad 5(3) o Reoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2020 (O.S. 2020/**** (Cy. **)).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol oʼr costau aʼr manteision syʼn debygol o ddeillio o gydymffurfio âʼr Rheoliadau hyn.


 

2020 Rhif (Cy. )

BWYD, CYMRU

DIOGELWCH BWYD

Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Cymru) (Diwygio) 2020

Gwnaed                                30 Ionawr 2020

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       31 Ionawr 2020

Yn dod i rym                      22 Chwefror 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 6(4), 16(1)(a) ac (e) a (2)(b), 17(1) a (2), 26(1) a (3) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990([1]) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([2]) ac adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([3]) a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau syʼn ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd([4]).

Maeʼr Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac maeʼn ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau penodol at ddarpariaethau yn Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2016/128([5]), y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn, gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y darpariaethau hynny fel yʼu diwygir o bryd iʼw gilydd.

Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A)([6]) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.

Cynhaliwyd ymgynghoriad fel syʼn ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop aʼr Cyngor syʼn gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd([7]), wrth lunio a gwerthusoʼr Rheoliadau hyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1) Enwʼr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Cymru) (Diwygio) 2020.

(2) Dawʼr Rheoliadau hyn i rym ar 22 Chwefror 2020.

(3) Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2016” yw Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Cymru) 2016([8]).

Diwygio Rheoliadau 2016

3. Mae Rheoliadau 2016 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 4 i 8.

4. Yn rheoliad 2 (dehongli), hepgorer paragraff (6).

5. Yn rheoliad 4 (cymhwyso darpariaethauʼr Ddeddf), ym mharagraff (5), yn lle “yn gymwys i hysbysiad gwella” rhodder “yn gymwys i apêl yn erbyn hysbysiad gwella”.

6. Yn lle rheoliad 7 (trefniadau trosiannol) rhodder—

7. Caniateir i fwyd at ddibenion meddygol arbennig, nad ywʼn cydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth benodedig yn y Rheoliad Dirprwyedig a bennir yn Atodlen 1, barhau i gael ei farchnata nes iʼr stociau oʼr bwyd hwnnw gael eu disbyddu ar yr amod—

(a)   ei fod yn cydymffurfio â darpariaethau Rheoliad yr UE a bennir yn Atodlen 1,

(b)   iddo gael ei roi ar y farchnad neu ei labelu—

                       (i)  cyn 22 Chwefror 2019, neu

                      (ii)  cyn 22 Chwefror 2020 yn achos bwyd at ddibenion meddygol arbennig a ddatblygir i fodloni gofynion maethol babanod, ac

(c)   bod y gofynion a bennir yn rheoliad 3(1) a (2) o Reoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000([9]) wedi eu bodloni.

7. Yn Atodlen 1([10]) (gofynion UE penodedig)—

(a)     yn y rhan oʼr tabl syʼn ymwneud â Rheoliad yr UE, yn y cofnod syʼn ymwneud ag “Erthygl 15(1) (rhestr yr Undeb)”, yng ngholofn 2, yn lle “Erthyglau 1(1)(c), 4(1) aʼr Atodiad iʼr graddau y maeʼn gymwys i fwyd at ddibenion meddygol arbennig” rhodder “Erthyglau 1(1)(a) ac (c) a 4(1) aʼr Atodiad iʼr graddau y maeʼn gymwys i fformiwla fabanod, fformiwla ddilynol, a bwyd at ddibenion meddygol arbennig”;

(b)     yn lleʼr rhan oʼr tabl syʼn ymwneud âʼr Rheoliad Dirprwyedig rhodder—

 

Darpariaeth benodedig yn y Rheoliad Dirprwyedig

Y darpariaethau sydd i gael eu darllen gydaʼr ddarpariaeth benodedig yn y Rheoliad Dirprwyedig

Erthygl 2(2) (gofyniad i fformiwleiddiad bwyd fod yn seiliedig ar egwyddorion meddygol a maethol cadarn)

Erthygl 1

Yr is-baragraff cyntaf o Erthygl 2(3) (gofyniad i fwyd at ddibenion meddygol arbennig a ddatblygir i fodloni gofynion maethol babanod gydymffurfio âʼr gofynion o ran cyfansoddiad yn Rhan A o Atodiad 1)

Erthyglau 1 a 2(4) a Rhan A o Atodiad 1

Yr ail is-baragraff o Erthygl 2(3) (gofyniad i fwyd ac eithrio bwyd a ddatblygir i fodloni gofynion maethol babanod gydymffurfio âʼr gofynion o ran cyfansoddiad yn Rhan B o Atodiad 1)

Erthyglau 1 a 2(4) a Rhan B o Atodiad 1

Erthygl 3(2) (gofyniad syʼn ymwneud âʼr trothwy gweddillion ar gyfer sylweddau gweithredol penodol pan fo bwyd at ddibenion meddygol arbennig yn cael ei ddatblygu i fodloni gofynion maethol babanod a phlant ifanc)

Erthyglau 1 a 3(1), (3) a (5) ac Atodiad 2

Erthygl 3(3) (uchafswm lefelau gweddillion ar gyfer y sylweddau a restrir yn Atodiad 2)

Erthyglau 1 a 3(1), (2) a (5) ac Atodiad 2

Erthygl 3(4) (gwahardd defnyddio cynhyrchion diogelu planhigion)

Erthyglau 1 a 3(1) a (5) ac Atodiad 3

Erthygl 4 (enwʼr bwyd)

Erthygl 1 ac Atodiad 4

Erthygl 5(1) (gofyniad i fwyd at ddibenion meddygol arbennig gydymffurfio â Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011([11]) oni phennir fel arall)

Erthyglau 1 a 5(2)

Erthygl 5(2) (manylion mandadol ychwanegol syʼn ymwneud â gwybodaeth am fwyd)

Erthyglau 1 a 5(1) a (3)

Erthygl 5(3) (cymhwyso Erthyglau 13(2) a (3) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 i fanylion mandadol ychwanegol)

Erthyglau 1 a 5(1) a (2)

Erthygl 6 (gofynion penodol ynghylch y datganiad ynglŷn â maethiad)

Erthygl 1 ac Atodiad 1

Erthygl 7 (honiadau am faethiad ac iechyd)

Erthygl 1

Erthygl 8(1) (gofyniad i fanylion mandadol ymddangos mewn iaith syʼn hawdd ei deall gan ddefnyddwyr)

Erthygl 1

Yr is-baragraff cyntaf o Erthygl 8(2) (gwahardd lluniau o fabanod neu luniau neu destun penodol arall)

Erthygl 1

Erthygl 8(3) (gofynion syʼn ymwneud â labelu, cyflwyno a hysbysebu)

Erthygl 1

Yr is-baragraff cyntaf o Erthygl 8(4) (cyfyngiad ar gyhoeddi)

Erthygl 1 aʼr trydydd is-baragraff o Erthygl 8(4)

Erthygl 8(5) (gwahardd defnyddio dyfeisiau hyrwyddo i gymell gwerthiannau)

Erthygl 1

Erthygl 8(6) (gwahardd darparu cynhyrchion, samplau neu roddion hyrwyddo eraill am ddim neu am bris isel)

Erthygl 1

Erthygl 9 (hysbysu)

Erthygl 1

 

8. Yn Atodlen 2 (addasu darpariaethauʼr Ddeddf), yn Rhan 3 (addasu adran 35)—

(a)     o flaen paragraff 7 mewnosoder—

6A. Yn adran 35(1), ar ôl “section 33(1) above” mewnosoder “, as applied by regulation 4(6) and (7) of the Food for Specific Groups (Information and Compositional Requirements) (Wales) Regulations 2016,;

(b)     ar ôl paragraff 7 mewnosoder—

7A. Yn adran 35(2), ar ôl “any other offence under this Act” mewnosoder “including an offence under section 33(2), as applied by regulation 4(6) and (7) of the Food for Specific Groups (Information and Compositional Requirements) (Wales) Regulations 2016,.

Dirymiadau ac arbedion

9.(1)(1) Maeʼr offerynnau a bennir yng ngholofn 1 oʼr tabl yn yr Atodlen wedi eu dirymu iʼr graddau a bennir yng ngholofn 3 oʼr tabl hwnnw, yn ddarostyngedig i baragraff (2).

(2) Maeʼr offerynnau a bennir yng ngholofn 1 oʼr tabl yn yr Atodlen yn parhau i gael effaith (iʼr graddau y maent wedi eu dirymu fel arall iʼr graddau a bennir yng ngholofn 3 oʼr tabl hwnnw) at ddibenion—

(a)     rheoliad 7(c) o Reoliadau 2016 fel yʼi hamnewidir gan reoliad 6 oʼr Rheoliadau hyn, a

(b)     rheoliad 5(3)(b) o Reoliadau Fformiwla


Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2020([12]).

 

 

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

30 Ionawr 2020


                      YR ATODLEN  Rheoliad 9

Dirymiadau

Colofn 1

Colofn 2

Colofn 3

Offeryn

Cyfeirnod

Graddauʼr dirymu

Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000

O.S. 2000/1866 (Cy. 125)

Y Rheoliadau cyfan

Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007

O.S. 2007/3573 (Cy. 316)

Rheoliad 30

Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Diwygio) (Cymru) 2008

O.S. 2008/2602 (Cy. 228)

Rheoliad 3

Rheoliadau Trosglwyddo Swyddogaethau (Bwyd) (Cymru) 2014

O.S. 2014/1102 (Cy. 110)

Rheoliad 2

Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Cymru) 2016

O.S. 2016/639 (Cy. 175)

Paragraff 2 o Atodlen 3

Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Diwygio) (Cymru) 2019

O.S. 2019/70 (Cy. 22)

Rheoliad 2

 



([1])           1990 p. 16. Diwygiwyd adran 6(4) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (“Deddf 1990”) gan baragraff 6 o Atodlen 9 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p. 40), paragraff 10(1) a (3)(a) o Atodlen 5, ac Atodlen 6, i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28) (“Deddf 1999”) ac O.S. 2002/794. Diwygiwyd adran 16(1) o Ddeddf 1990 gan baragraffau 7 ac 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 17 o Ddeddf 1990 gan baragraffau 7, 8 a 12 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2011/1043. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 48(1) gan baragraffau 7 ac 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999.

([2])           Mae’r swyddogaethau hynny a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers” (sef, o ran Cymru a Lloegr ac yn gweithredu ar y cyd, y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a’r Ysgrifenyddion Gwladol a oedd yn eu trefn yn ymwneud ag iechyd yn Lloegr a bwyd ac iechyd yng Nghymru) bellach yn arferadwy o ran Lloegr gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol â pharagraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 fel y’i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, a’u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

([3])           1972 p. 68 (“Deddf 1972”). Diwygiwyd adran 2(2) o Ddeddf 1972 gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o’r Atodlen iddi. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006. Fe’i diwygiwyd gan adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 a Rhan 1 o’r Atodlen iddi ac O.S. 2007/1388.

([4])            O.S. 2005/1971, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol iʼr Rheoliadau hyn.

([5])           Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2016/128 syʼn ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop aʼr Cyngor ynghylch y gofynion penodol o ran cyfansoddiad a gwybodaeth ar gyfer bwyd at ddibenion meddygol arbennig (OJ Rhif L 25, 02.02.2016, t. 30).

([6])           Mewnosodwyd adran 48(4A) gan adran 40(1) o Ddeddf 1999 a pharagraff 21 o Atodlen 5 iddi.

([7])           OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 2019/1243 Senedd Ewrop aʼr Cyngor (OJ Rhif L 198, 25.07.2019, t. 241).

([8])           O.S. 2016/639 (Cy. 175), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/70 (Cy. 22) ac a ddiwygiwyd yn rhagolygol gan O.S. 2019/179 (Cy. 45).

([9])           O.S. 2000/1866 (Cy. 125); a ddiwygiwyd gan O.S. 2014/1102 (Cy. 110); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([10])         Amnewidiwyd y tabl yn Atodlen 1 gan O.S. 2019/70 (Cy. 22).

([11])         Rheoliad (EC) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop aʼr Cyngor dyddiedig 25 Hydref 2011 ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, syʼn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop aʼr Cyngor, ac syʼn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop aʼr Cyngor, Cyfarwyddebauʼr Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004 (OJ Rhif L 304, 22.11.2011, t. 18).

([12])         O.S. 2020/81 (Cy. 11).